Y ddaear fud ro'i meirw'n fyw, A'r creigydd fry a holltai'n friw, Wrth wel'd y Crëwr pur; Yr haul ymguddiai wrth y loes, Y lloer a'r sêr ai'n dywyll nos: O! f'enaid, cofia'i gur. Trywanwyd, do, fy Mhrynwr rhad, Nes daeth o'i galon ddŵr a gwaed, Yn ffrwd fel afon bur, Oedd ar y llawr i'w wel'd yn llyn, Yn frwd, ar ben Calfaria fryn: O! f'enaid, cofia'i gur. Mi glywa'i lef pan chwerwa'i loes, A'i irad gri ef ar y groes, Am faddeu i mi'n wir; Ei weddi troswyf, ai uwch nen, A mi'n ei hoelio ar y pren: O! f'enaid, cofia'i gur. Dros f'enaid i bu'r addfwyn Oen, Fel hyn, yn dioddef dirfawr boen, I'm gwneyd yn rhydd yn wir: 'Roedd yn ei fryd orphenu'r gwaith O eithaf tragwyddoldeb maith: O! f'enaid, cofia'i gur.William Williams 1717-91
Tonau [886D]: gwelir: Rhan I - O deffro tro fy enaid Fy enaid nac anghofia groes O boed fy nghalon oll ar dân Rhow'd mantell goch am dan yr Oen Trywanwyd do fy Mhrynwr rhad Yn Eden cofiaf hynny byth |
The mute earth gave up it's dead alive, And the rocks above split apart, On seeing the pure Creator; The sun hid itself from the anguish, The moon and the stars became dark night: O my soul, remember his pain! He was pierced, he was, my gracious Redeemer, Until from his heart came water and blood, As a stream like a pure river, That was on the ground to be seen as a lake, Ardently, on the summit of Calvary hill: O my soul, remember his pain! I hear his cry when his anguish turns bitter, And his sorrowful shout on the cross, For forgiving me truly; His prayer for me, going above the sky, And I nailing him to the cross: O my soul, remember his pain! For my soul did the gentle Lamb, Thus, suffer tremendous pain, For me to be made free truly: It was in his mind to finish the work From the extremity of vast eternity: O my soul, remember his pain.tr. 2021 Richard B Gillion |
|